Ein diben

P’un a ydych chi’n weinyddwr, yn weithiwr cymorth gofal iechyd, yn swyddog cymorth TG, neu’n feddyg sy’n gweithio mewn adran damweiniau ac achosion brys brysur, rydyn ni i gyd yn cyfrannu at gyflawni ein nodau.

Mae gan Gwm Taf Morgannwg 4 nod, sef:

  • Creu iechyd
  • Cynnal ein dyfodol
  • Gwella gofal
  • Ysbrydoli pobl

Dyma rai o’n huwch-arweinwyr yn egluro sut rydyn ni’n gweithio i gyflawni’r nodau hyn.

Our Purpose graphics

Creu Iechyd

Mae’r syniad hwn, o wella’n barhaus a chael gwared â’r gwahaniaethau annheg mewn iechyd a lles trwy weithio gyda’n cymunedau a’n partneriaid, a modelu’r ymddygiadau sy’n galluogi iechyd rydyn ni am eu gweld yn ein cymunedau, yn hanfodol i’n hymdeimlad o bwrpas a’n dull o ‘greu iechyd’.

 

Mwy ynglŷn â chreu Iechyd

Cynnal ein Dyfodol

Mae pawb yn ymwybodol o’r cysylltiad rhwng iechyd ein pobl, iechyd y boblogaeth rydyn ni’n ei gwasanaethu ac iechyd ein planed. Yn sgil hynny, wrth i ni geisio trawsnewid sut, ble a phryd rydyn ni’n darparu gwasanaethau, mae’n hollbwysig ein bod ni’n eu hasesu a’u dylunio nhw mewn modd sy’n gynaliadwy ac sy’n adfer yr amgylchedd. Mae dyletswydd gyda ni, nid yn unig i ddarparu gwell canlyniadau iechyd a lles i’n cymunedau, ond hefyd i ddiogelu ein planed a’n hadnoddau naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Mwy ynglŷn â chynnal ein dyfodol

Gwella Gofal

Mae gwella gofal yn ymwneud â darparu gofal diogel a thosturiol, datblygu modelau gofal newydd, trawsnewid digidol i gleifion a staff a sicrhau bod pobl yn cael gofal yn amserol.

 

Mwy ynglŷn â gwella gofal

Ein diben

Ysbrydoli Pobl

Mae arweinyddiaeth weladwy ac ysbrydoledig, hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, gwreiddio ein gwerthoedd a’n hymddygiad ac annog cyflogaeth leol, i gyd yn cyfrannu at ysbrydoli pobl.

Dysgwch fwy ynglŷn â’r ffordd rydyn ni’n ysbrydoli pobl.

Chwilio am Swyddi

Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Chwilio am Swyddi