Ni Yw Cwm Taf Morgannwg

Ar 5 Gorffennaf 1948, digwyddodd moment hanesyddol yn hanes Prydain, cynllun beiddgar ac arloesol i sicrhau nad yw gofal iechyd bellach yn gyfyngedig i’r rhai a allai ei fforddio ond i’w wneud yn hygyrch i bawb. Cafodd y GIG ei eni.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn rhan o deulu GIG Cymru. Mae ein Bwrdd Iechyd yn darparu gofal iechyd sylfaenol, eilaidd a chymunedol ynghyd â gwasanaethau lles i tua 450,000 o bobl sy’n byw mewn tair sir: Pen-y-bont ar Ogwr, Merthur Tydful a Rhondda Cynon Taf.

Mewn cydweithrediad â sawl partner lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, y sector cyhoeddus yn ehangach, y diwydiant preifat a sefydliadau yn y trydydd sector, rydyn ni’n darparu gwasanaethau iechyd craidd ac yn cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Rydyn ni’n gyflogwr lleol balch; mae oddeutu 80% o’n gweithlu o 15,000 yn byw o fewn ein rhanbarth. O ganlyniad, nid enaid y sefydliad yn unig y mae ein staff yn ei gynrychioli, ond y cymunedau amrywiol rydyn ni’n eu gwasanaethu.

Ein Gwerthoedd

Rydyn ni’n gwrando, yn dysgu ac yn gwella…

Rydyn ni’n gwrando, yn dysgu ac yn gwella…

Mae gan bawb yr hawl i siarad a chael eu clywed. Felly rydyn ni’n rhoi cyfle i’n pobl i siarad yn agored. Rydyn ni eisiau pobl sy’n gofyn cwestiynau, sy’n gwrando’n ofalus, a defnyddio beth maen nhw wedi’i ddysgu i wneud gwahaniaeth er gwell.

Rydyn ni’n trin pawb â pharch…

Rydyn ni’n trin pawb â pharch…

Rydyn ni i gyd yn gwneud gwahaniaeth, beth bynnag yw ein rôl. Felly rydyn ni eisiau pobl sy’n garedig ac yn deg. Pobl sy’n awyddus i helpu, a hynny o’u gwirfodd. A phan fydd rhywun yn haeddu diolch, rydyn ni’n dweud diolch.

Rydyn ni i gyd yn gweithio fel un tîm…

Rydyn ni i gyd yn gweithio fel un tîm…

Mae pob un ohonom ni’n wych. Ond gyda’n gilydd, rydyn ni’n well. Felly rydyn ni eisiau pobl sy’n cadw golwg am eraill, a’u cynorthwyo i deimlo’n rhan o’r tîm. A phan rydych chi’n dysgu rhywbeth defnyddiol, cofiwch ei rannu!

Ein Gyrfaoedd

Gyda dewis o gannoedd o yrfaoedd, mae swydd ar eich cyfer chi ni waeth beth yw eich diddordebau, eich sgiliau a’ch cymwysterau.

O arbenigeddau meddygol a deintyddol i wasanaethau cymorth, myfyrwyr a phobl dan hyfforddiant, rydyn ni wedi ymrwymo i roi’r profiad gorau i weithiwyr yn ein tîm.

Rydyn ni’n cynnig nifer o raglenni hyfforddiant a datblygiad i gefnogi eich cynnydd personol a chynnydd eich tîm.

Holl Yrfaoedd
Staff yr ysbyty Sgan llawfeddyg yn y labordy A moving shape for decoration Shape for decoration A decorative shape

Chwilio am Swyddi

Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Chwilio am Swyddi