llenwi ffurflenni

Meddygol a Deintyddol

Gyda phob rôl fel meddyg neu ddeintydd, rydych chi’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Ni waeth beth yw sefyllfa eich gyrfa, mae rhywbeth yma i chi yn bendant. Rydyn ni’n cynnig amgylchedd cefnogol gydag ystod eang o arbenigeddau – cewch ddysgu, cynnal ymchwil, a datblygu eich hun a’n gwasanaethau. Byddwch yn rhan o dîm y gallwch ymfalchïo ynddo!

Arbenigeddau

Mae ein poblogaeth yn wynebu heriau iechyd sylweddol a bydd rôl gyda ni yn golygu y byddwch yn y rheng flaen wrth wella iechyd ar draws ein rhanbarth. Er mwyn ein cynorthwyo i gwrdd â’r gofynion hyn, mae nifer o arbenigeddau a rolau ar gael gyda ni i feddygon a deintyddion ledled CTM. Mae’r rhain yn amrywio o’r Adran Argyfwng, draw at amrywiaeth o rolau meddygol a llawfeddygol, paediatreg, gofal yr henoed, gofal dwys, radioleg, y genau a’r wyneb, deintyddiaeth adferol, obstetreg, ymlaen i seiciatreg, gofal sylfaenol a histopatholeg.

Ymchwil

Mae mwy i Fwrdd Iechyd Prifysgol na dulliau arloesol a sicrhau y cewch chi’r cyfle i wella eich sgiliau drwy gyfleoedd dysgu a datblygu. Mae hefyd yn ymwneud â chyfleoedd i arwain a chymryd rhan mewn rhaglenni ymchwil.

"Rwy’n teimlo fy mod yn cael y gefnogaeth orau posib o ran fy ngyrfa ac rwyf wedi cael y cyfle i ffynnu a disgleirio ers i mi fod yma... Mae yna ymdeimlad cryf o gymuned. Mae pawb yn adnabod pawb. Mae cryfder cymuned gyfan yma, rhywbeth nad ydych chi’n ei brofi’n unman arall."
Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Acíwt

Chwilio am Swyddi

Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Chwilio am Swyddi