Pam Cwm Taf Morgannwg?

Mae Cwm Taf Morgannwg yn sefydliad sydd wedi ennill gwobrau.

Rydyn ni’n cynnig llawer o gyfleoedd mynediad amrywiol yng Nghwm Taf Morgannwg gan gynnwys Project Search, kick-start, prentisiaethau, a chynlluniau graddedigion.

Pan fyddwch chi’n ymuno â’n tîm, gallwch fod yn hyderus ein bod wedi ymrwymo i ddatblygu ein staff ar hyd eu llwybrau gyrfa, gan gynnwys cynnig rhaglen unigryw i ddatblygu rheolwyr.

Yn angerddol am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant; ar gyfer ein staff, cleifion a defnyddwyr gwasanaethau, rydyn ni’n cynnig sawl rhwydwaith i gefnogi staff, yn cynnwys Rhwydwaith BAME, Rhwydwaith LGBT + , Canolfan Anableddau, Nam ar y Synhwyrau a llawer mwy.

Dysgu

Hyfforddi

Wrth hyfforddi yng Nghymru (dolen i AaGIC), gallwch ganfod llawer o gyfleoedd cyffrous am yrfa. Dewiswch o hyfforddiant arbenigol o ansawdd uchel a derbyn cefnogaeth gan weithwyr proffesiynol profiadol mewn gofal iechyd gan gynnwys meddygon a nyrsys sydd wedi ymrwymo i gynorthwyo eich datblygiad.

Yng Nghwm Taf Morgannwg, rydyn ni’n sicrhau bod cyfle i chi wireddu eich potensial ac rydyn ni’n cefnogi llwybrau dysgu unigol drwy gynnig hyfforddiant arbenigol o ansawdd uchel.

Darllen Mwy

Gweithio

Gweithio

Bachwch ar y cyfle i barhau â thraddodiadau’r GIG yn ei wlad enedigol, gweithio mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf gyda chefnogaeth gref a dylanwadu ar ddyfodol gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.

Mae Cymru’n gartref i chwe Bwrdd Iechyd Prifysgol, un Bwrdd Iechyd Addysgu a thair Ymddiriedolaeth, ac mae pob un ohonyn nhw’n cyfrannu at enw da haeddiannol y GIG am ymchwil ryngwladol.

Darllen Mwy

Mwynhau

Byw

Mae Cwm Taf Morgannwg mewn safle delfrydol rhwng Caerdydd, tref arfordirol Porthcawl i’r gorllewin, a’r golygfeydd godidog ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’r gogledd.

Mae gan ein cymunedau hanes a threftadaeth cyfoethog, safleoedd o harddwch amgylcheddol a mannau eraill o ddiddordeb, ac mae rhif y gwlith o atyniadau cenedlaethol.

Darllen Mwy

Y Manteision

Yma yng Ngwm Taf Morgannwg, rydyn ni’n cynnig pecyn buddion a disgowntiau hael i aelodau o staff.

Mae’n cynnwys:

Byddwch chi’n derbyn lwfans gwyliau blynyddol hael o 27 diwrnod y flwyddyn ynghyd â gwyliau banc. Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth bydd hyn yn cynyddu i 29 diwrnod ac i 33 diwrnod wedi deng mlynedd o wasanaeth.
O dan y cynllun gall staff brynu hyd at 10 diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol o fewn y flwyddyn ariannol benodol. Bydd y gwyliau’n cael eu had-dalu dros gyfnod o 6 neu 12 mis drwy ostyngiad mewn cyflog.
Rydyn ni’n deall bod mwy i fywyd na gwaith ac rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr y gallwn ni eich helpu i daro’r cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith. Mae ein Bwrdd Iechyd yn cynnig polisi gweithio hyblyg er mwyn i chi daro’r cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys: gweithio o gartref, oriau rhan-amser, opsiynau i rannu swydd, seibiant o yrfa ac ymddeoliad hyblyg.
Rydyn ni’n rhan o gynllun pensiwn y GIG. Os ydych chi’n ymuno â chynllun pensiwn y GIG bydd y Bwrdd Iechyd yn cyfrannu 20.68% at eich pensiwn.
Os ydych chi’n bwriadu beicio i’r gwaith, mae modd i chi archebu beic drwy’r cynllun beicio i’r gwaith ac arbed hyd at 42% oddi ar bris beic newydd. Mae gyda ni hefyd gynlluniau ar gael ar gyfer Technoleg Gartref a Ffonau Clyfar ynghyd ag opsiynau i Logi Car am bris cystadleuol.
Rydyn ni’n cynnig Gwasanaeth Lles ymroddedig ar gyfer ein holl staff er mwyn iddyn nhw gael mynediad at yr ystod eang o gefnogaeth ar gyfer lles.
Mae gan yr holl staff fynediad at ein gwasanaethau iechyd galwedigaethol: gall y gwasanaeth gynorthwyo staff gyda rheoli straen, cwnsela cyfrinachol a brechiadau tymhorol.
Rydyn ni’n cydnabod bod pawb angen cefnogaeth emosiynol o dro i dro, a hynny am wahanol resymau. Gall staff fanteisio ar gymorth a chyngor cyfrinachol gan Vivup 24/7.
Bellach Disgowntiau’r Gwasanaeth Iechyd (Disgowntiau’r GIG yn flaenorol) yw’r darparwr buddion mwyaf i weithwyr y GIG. Cewch ymuno am ddim, ac mae’n cynnig sawl ffordd i arbed arian wrth siopa ac wrth fynd ar wyliau ac mae hefyd yn cynnig gwasanaethau ariannol.
Ewch am gipolwg ar y cynigion amrywiol sydd ar gael i staff y GIG, gallwch chi chwilio amdanyn nhw yn eich tref leol. Ar gyfer llawer o’r cynigion yn y siop, bydd angen i chi brynu cerdyn disgownt GIG am daliad untro.
Cofrestrwch am gerdyn Blue Light am ddisgowntiau ar y Stryd Fawr ac Ar-lein. Mae cofrestru a defnyddio’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim.
Mae’n bosibl i holl staff y GIG wneud arbedion drwy gyflwyno eu Cerdyn Adnabod GIG mewn nifer o sefydliadau lleol sy’n cymryd rhan, gan gynnwys canolfannau garddio, canolfannau hamdden, cyfleusterau campfa preifat, tai bwyta ond i enwi ambell un.

Chwilio am Swyddi

Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Chwilio am Swyddi