Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd

Bob dydd, mae ein gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (AHP) yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu cleifion i fyw eu bywydau mor llawn â phosibl.

Mae llawer o wahanol rolau yn y maes hwn, ond mae un peth sy’n gyffredin ym mhob un – maen nhw’n chwarae rôl hanfodol wrth drin ac adsefydlu cleifion a gwella eu bywydau.

Gyda chefnogaeth CTM, chi sy’n creu’r profiad rydych chi eisiau ei gael.

Y dull holistaidd

Mae ein gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ledled CTM yn cynorthwyo ein cleifion trwy ddull holistaidd, gan weithredu system gyfan ym mhob cam o’r driniaeth, o’r asesiad i’r diagnosis, y driniaeth ei hun a’r cyfnod rhyddhau’r claf.

Gan weithio ochr yn ochr â thîm amlddisgyblaethol o feddygon, nyrsys a staff cymorth, rydych chi’n helpu cleifion i oresgyn rhwystrau, yn feddyliol ac yn gorfforol, gan eu galluogi i wneud y gorau o’u potensial i fwynhau bywydau iach a llawn, a bod mor annibynnol â phosib.

Y gwobrwyon

Nid boddhad yn y swydd yw unig fantais bod yn Weithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.

Gyda hyfforddiant a chyrsiau ar gael trwy’r adeg, gallwch fwrw ymlaen neu arbenigo gyda’r gwasanaeth.

Boed yn therapi lleferydd pediatreg, neu ffisiotherapi cyhyr-ysgerbydol, neu famograffi, mae bob amser ffyrdd i wella eich gwybodaeth a’ch profiad.

"Dydych chi byth yn teimlo eich bod ar eich pen eich hun. Mae gyda chi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi bob amser, ni waeth pa mor fawr neu fach yw’r broblem. "
Radiograffydd

Chwilio am Swyddi

Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Chwilio am Swyddi