Gwasanaethau Gweinyddol

Mae’n rhaid i CTM fod yn drefnus, mae angen cynnal cofnodion, ac mae angen trefnu apwyntiadau.

Mae ein staff gweinyddol yn cefnogi ein holl wasanaethau, gan eu cynorthwyo i redeg yn esmwyth a sicrhau bod y bobl iawn yn derbyn y wybodaeth iawn ar yr amser iawn.

Boed yn y dderbynfa, cofnodion meddygol, cyllid, Adnoddau Dynol, TG, ysgrifenyddion meddygol neu’r switsfwrdd, gallwch chi helpu i sicrhau fod y gwasanaethau’n rhedeg yn effeithlon ac yn effeithiol.

Staff Cofnodion Meddygol

Mae gan bob claf gofnod o’i driniaeth a’i ofal – mae’n rhaid i hyn fod yn gywir.

Mae tîm o bobl gyda ni sy’n gyfrifol am gynnal y cofnodion hyn. Maen nhw yn eu cadw mewn trefn, yn gyfamserol ac yn eu storio’n ddiogel, gan hefyd sicrhau eu bod yn cyrraedd y bobl gywir ar yr amser cywir yn barod ar gyfer gofal y claf neu ein hapwyntiadau cleifion allanol.

TGCh

Mae’r staff TGCh yn gyfrifol am yr holl rwydweithiau cyfathrebu electronig mewnol ac allanol, felly os oes dawn naturiol mewn cyfrifiadura gyda chi, gall yr adran TGCh fod â rôl ar eich cyfer chi.

O ddesg gymorth y rheng flaen i brofion, o gyfathrebu i rwydweithio, mae ystod eang o rolau ar gael.

Chwilio am Swyddi

Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Chwilio am Swyddi