Byw
Mae Cwm Taf Morgannwg mewn safle delfrydol rhwng Caerdydd, tref arfordirol Porthcawl i’r gorllewin, a’r golygfeydd godidog ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’r gogledd.
Mae gan ein cymunedau hanes a threftadaeth cyfoethog, safleoedd o harddwch amgylcheddol a mannau eraill o ddiddordeb, ac mae rhif y gwlith o atyniadau cenedlaethol.
Mae ein hymdeimlad cryf o gymuned yn golygu bod Cwm Taf Morgannwg yn lle croesawgar i alw’n gartref. P’un a ydych yn ailsefydlu fel teulu neu ar eich pen eich hun, rydym mewn lleoliad delfrydol rhwng Caerdydd i’r de, tref arfordirol Porthcawl i’r gorllewin, a’r golygfeydd godidog ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’r gogledd.
Wrth fyw yma, cewch gyfle i archwilio harddwch syfrdanol y mynyddoedd, y rhaeadrau a’r coetiroedd a geir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy’n cynnwys rhai o’r llwybrau cerdded gorau yn Ewrop. Byddwch yn darganfod trysorau Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, Ymddiriedolaeth Amgueddfa Cwm Cynon ac Amgueddfa Pontypridd. Ymgollwch mewn taith hamddenol ar hyd traethau Aberogwr a Bae Dwnrhefn. Ewch ar daith trwy amser ar drên stêm ar Reilffordd Mynydd Brycheiniog. Neu gallwch ddilyn llwybrau BikePark Wales.
Gallwch hefyd archwilio rhannau eraill o Gymru. Mae ein lleoliad canolog yn ein gwneud yn fan cychwyn perffaith!
Cyrraedd o Dramor
Os ydych chi dramor ar hyn o bryd ac eisiau ymuno â ni yng Nghymru, mae gennym adnodd anhygoel sydd wedi’i greu gan Dr Jen Myo mewn partneriaeth ag Addysg ac Arloesi mewn Iechyd yng Nghymru (AaGIC) sydd â’r nod o’ch cyfeirio at elfennau pwysig o ddechrau eich bywyd yma.
Chwilio am Swyddi
Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.