Swyddi Nyrsio a Bydwreigiaeth

Nyrsio a Bydwreigiaeth

Mae nyrsys a bydwragedd yn newid bywydau. Mae pob diwrnod yn wahanol – maen nhw ymhlith y rolau mwyaf amrywiol, deinamig a gwerth chweil yn CTM. Ein blaenoriaeth yw darparu gofal o’r ansawdd uchaf i’n holl gleifion a’u teuluoedd, ar draws ein ysbytai a’n cymunedau. Gyda’r opsiwn i ddatblygu eich sgiliau drwy raglenni pwrpasol, gall eich gyrfa fynd â chi i sawl cyfeiriad.

Rolau amrywiol

Beth bynnag rydych chi’n chwilio amdano o’ch gyrfa’n ymwneud â nyrsio neu bydwreigiaeth, rydych chi’n siŵr o’i ganfod ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Popeth o nyrsys ward, timau nyrsio cymunedol, uwch-ymarferwyr nyrsio, i nyrsys clinigol arbenigol. O fydwragedd mewn ysbytai, i dimau cymunedol ac yn y cartref, draw at rolau arbenigol iawn. Mae cymaint o gyfeiriadau ac arbenigeddau ar gael ar gyfer eich taith nyrsio a bydwreigiaeth.

Arloesi

Rydyn ni wedi ymrwymo i wrando, dysgu a gwella er mwyn sicrhau bod profiad y claf yn cyrraedd y brig. Mae dulliau arloesol yn nodwedd bwysig o’n gwaith i gefnogi ein cleifion a gwella iechyd ein poblogaeth – mae eich syniadau’n bwysig i ni!

Bydd gyda chi’r rhyddid i fod yn arloesol wrth eich gwaith a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cleifion, ein gofalwyr, y teuluoedd a’r bobl hynny sy’n annwyl i chi.

"Mae gyda chi’r fraint o gamu i fyd rhywun arall a bod yn rhan o hynny. Pan fyddwch chi’n gyrru am adref, rydych chi’n gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth. "
Uwch-ymarferydd nyrsio

Chwilio am Swyddi

Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Chwilio am Swyddi