Optegydd

Datblygu Arweinyddiaeth a Diwylliant Dysgu

Yn CTM, un o’n pedair blaenoriaeth strategol o ran pobl yw ysbrydoli arweinyddiaeth ragorol, ac mae’n cyd-fynd â’n nod strategol o ‘Ysbrydoli Pobl’.

Rydyn ni am newid y ffordd rydyn ni’n meddwl am arweinyddiaeth, drwy ysgogi arweinyddiaeth ar y cyd ar bob lefel yn y sefydliad, lle mae pawb yn cymryd cyfrifoldeb dros ddarparu gofal rhagorol i’n cleifion.

Mae BIP CTM, fel llawer o’r system gofal iechyd yng Nghymru, wedi wynebu rhai o’r heriau mwyaf cyffredin, ac mae disgwyl i’r gofynion ddwysáu. Os yw ein gwasanaethau iechyd a’r economi iechyd yn ehangach i berfformio orau y gallan nhw, yna mae arddel arweinyddiaeth effeithiol nawr, a sicrhau arweinyddion cryf ar y gorwel sy’n datblygu ar gyfer y dyfodol, yn hanfodol i’n llwyddiant.

Rydyn ni eisiau magu arweinwyr a fydd yn ysbrydoli, sy’n annog pobl eraill i fynd y tu hwnt i’r ffiniau maen nhw wedi eu gosod iddyn nhw eu hunain. Wrth wneud hynny, rydyn ni am i’n harweinwyr fod yn benderfynol, yn dosturiol, yn ddiymhongar ac yn ddewr.  Rydyn ni am iddyn nhw fachu ar bob profiad fel cyfle i ddysgu a thyfu. Rydyn ni am i arweinwyr sy’n rhannu ein gwerthoedd, ac sy’n barod i wrando a chael eu herio, ymuno â ni. Unigolion sy’n awyddus i ddysgu o’u profiadau, ac sydd am wella eu harweinyddiaeth, o fewn amgylchedd lle mae pobl yn parchu ei gilydd, ble mae pawb yn cael y cyfle i weithio gyda’i gilydd i gyflawni eu gwaith gorau.

Os ydych chi newydd ddechrau ar eich taith arweinyddiaeth, os oes gyda chi ychydig o flynyddoedd o brofiad yn arwain adran neu wasanaeth yn barod, neu os ydych chi’n uwch-arweinydd sy’n arwain newid mewn system gymhleth, mae gyda ni raglen ar eich cyfer chi.  Mae ein rhaglenni arweinyddiaeth yn ceisio ymateb i heriau gofal iechyd a sefydliadol amlwg, boed hynny yn heriau presennol neu heriau’r dyfodol. Maen nhw wedi’u cynllunio i gefnogi ein huchelgais arweinyddiaeth, sef i greu amgylchedd sy’n galluogi pobl i wneud gwaith gwych.

Yn y pen draw, beth rydyn ni am ei greu yw arweinyddiaeth sy’n rhoi diogelwch a phrofiad cleifion, ynghyd â lles pob aelod o staff, wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud.  Wrth wneud hynny, rydyn ni am i’n harweinwyr:

  1. Ddysgu amdanyn nhw eu hunain a datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth i lywio ac arwain eraill drwy ein byd cymhleth sy’n newid trwy’r amser
  2. Bod wedi eich ysbrydoli ac â’r cymhelliad i ddatblygu y tu hwnt i unrhyw ffiniau a chyfyngiadau tybiedig
  3. Gweld eu heffaith amlwg ar ddiwylliant CTM a chymryd cyfrifoldeb personol am hynny
  4. Cysylltu ar draws ffiniau clinigol a phroffesiynol, a chreu cenhadaeth arweinyddiaeth bwerus a deinamig ar gyfer CTM

Ac o ganlyniad i gyflawni’r amcanion hyn, ein nod yw newid y ffordd rydyn ni’n meddwl am arweinyddiaeth, a chreu dyfodol cynaliadwy ar gyfer y bobl rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw.

Yn CTM rydyn ni’n cychwyn ar fudiad arweinyddiaeth cwbl ddigynsail. Mae’n seiliedig ar raglen o ddysgu ‘ymgolli’, sydd ddim yn ymwneud ag arweinyddiaeth wych yn unig, ond sydd hefyd yn ymwneud â chydweithio ag arweinwyr eraill ar draws CTM i fynd i’r afael â’r heriau gwirioneddol a dybryd sy’n ein hwynebu fel sefydliad. Rydyn ni’n mynd drwy brofiad dysgu ymgolli gwirioneddol a fydd yn herio hyd yn oed yr arweinydd mwyaf profiadol.  Ac oherwydd ein bod yn gweithio yn un o’r systemau gofal iechyd mwyaf cymhleth yn y byd, fyddwch chi byth yn cael eich herio fel arweinydd fel ag y byddwch yn CTM.  Rydyn ni’n awyddus i glywed gan arweinwyr sy’n meddwl ychydig yn wahanol, sy’n barod i fynd y tu hwnt i feddylfryd confensiynol, ac sy’n fwy na pharod i greu arweinwyr yn hytrach na dilynwyr.

Chwilio am Swyddi

Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Chwilio am Swyddi