Gweithio

Creu Iechyd: Ymdeimlad o Bwrpas

Un o bedwar nod strategol ein sefydliad yw ‘Creu Iechyd’. Mae’r syniad hwn, o wella’n barhaus a chael gwared â’r gwahaniaethau annheg mewn iechyd a lles trwy weithio gyda’n cymunedau a’n partneriaid, a modelu’r ymddygiadau sy’n galluogi iechyd rydyn ni am eu gweld yn ein cymunedau, yn hanfodol i’n hymdeimlad o bwrpas a’n dull o ‘Greu Iechyd’.

Pu’n a ydych yn feddyg, yn nyrs, yn borthor, yn rheolwr, yn weithiwr cymorth gofal iechyd neu’n weinyddwr, wrth i chi gysylltu â phobl yn ein cymunedau’n ddyddiol – ambell un yn glaf –  mae cyfle unigryw gyda chi i fod yn gyfrwng ar gyfer newid.  Gallwch fod yn gyfrwng i’r gwerthoedd gwrando, dysgu, gwella, gwaith tîm a pharch. Dyma yw’r gwerthoedd y mae CTM yn eu hymgorffori.  Mae’r gwerthoedd a’r ymddygiadau dan sylw yn hanfodol i’n nod o ‘Greu Iechyd’, fel y mae’r gwerthoedd hynny a fyddai’n taro tant gyda phobl fel chi, y bobl hynny y mae’r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu mor bwysig iddyn nhw.

Mae ein gwasanaethau iechyd cyhoeddus yn arwain gyda’r Bwrdd Iechyd cyfan wrth hybu iechyd a lles corfforol a meddyliol, gan fynd i’r afael ag achosion iechyd gwael – fel ysmygu, camddefnyddio alcohol, deiet gwael a diffyg ymarfer corff – a’r rhesymau dros yr achosion hynny –  tlodi a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.  Mae ein gwasanaethau sgrinio ac imiwneiddio yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth atal clefydau yn ein cymunedau. Mae ein gwasanaethau triniaeth – boed mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd neu ofal yn y gymuned – yn sicrhau y gall pobl gyrraedd gofal diogel, effeithlon, effeithiol, amserol a theg sy’n canolbwyntio ar y claf pryd bynnag y bydd angen iddyn nhw. Pan fydd angen adsefydlu pobl ar ôl derbyn gofal acíwt – sy’n eithriadol o bwysig mewn perthynas â chyflyrau allweddol fel strôc a COVID hir – mae ein gwasanaethau adsefydlu wrth law. Yn y pen draw, pan fydd yr uchod i gyd yn methu a bod marwolaeth yn anochel, rydyn ni’n awyddus i wneud yn siŵr bod pobl yn dod i ddiwedd eu hoes mewn ffordd urddasol. Un o’r prif gasgliadau o hyn yw bod ‘Creu Iechyd’ yn sail i bopeth rydyn ni’n ei wneud yn y Bwrdd Iechyd.

Os ydych chi’n un o’r bobl hynny sy’n uniaethu â’r uchelgeisiau a’r gwerthoedd hyn, dewch i ymuno â ni – rydyn ni, ein cymunedau a’n partneriaid ar drywydd rhywbeth rhyfeddol yma yn CTM, a gallwch chi fod yn rhan o’r stori honno.

Chwilio am Swyddi

Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Chwilio am Swyddi