Gweithio

Lles a Phrofiad y Gweithwyr

Gan ein bod yn treulio cymaint o oriau yn y gwaith, mae’n bwysig ein bod ni’n mwynhau ein swyddi, a bod y rolau rydyn ni’n eu gwneud yn gwneud daioni i’n hiechyd emosiynol a chorfforol a’n lles.

Yn CTM rydyn ni’n teimlo’n gryf am y gwaith o ofalu am ein staff, ac rydyn ni am i bawb sy’n cael ei gyflogi gan CTM ei ystyried yn lle gwych i weithio.

Y bobl sy’n gweithio i’r sefydliad yw ei adnodd mwyaf gwerthfawr, ac, oherwydd hynny, mae’n gwneud synnwyr i ofalu amdanyn nhw. Darparu gweithleoedd iach yw’r peth gorau i’w wneud er budd y gweithlu, ond mae hefyd yn gwneud synnwyr ar lefel ariannol, ac mae’n effeithio’n uniongyrchol ar ansawdd y gofal sy’n cael ei roi i gleifion.  Erbyn hyn mae astudiaethau lu yn dangos bod staff sy’n teimlo’n hapus ac yn iach yn y gwaith yn cymryd mwy o ddiddordeb yn eu gwaith, maen nhw’n fwy cynhyrchiol, ac maen nhw’n fwy tebygol o aros gyda’r cyflogwr. Hefyd, mae cysylltiad rhwng profiad y gweithiwr a phrofiad y claf. Ein nod yw darparu gofal rhagorol i’n cleifion, a’r ffordd orau y gallwn wneud hynny yw trwy sicrhau bod ein staff yn teimlo bod rhywun yn gofalu amdanyn nhw hefyd a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Does neb eisiau teimlo’n anhapus neu’n sâl yn y gwaith. Mae gwasanaethau Lles y Gweithiwyr a Phrofiad y Gweithwyr yn CTM yn gweithio’n galed i sicrhau nad yw hyn yn digwydd, ac i ymyrryd os yw’r fath beth yn codi.

 

Pam ymuno â ni? 

Mae tîm Profiad y Gweithwyr yn gwrando ar staff CTM yn rheolaidd i ddeall beth sy’n gweithio’n dda, beth sydd ddim yn gweithio gystal, a pha gamau sydd angen eu rhoi ar waith er mwyn gwneud CTM yn lle gwych i weithio. Rydyn ni’n mynd i’r afael â phrosesau sydd ddim yn gweithio, er mwyn gwneud i bethau redeg yn fwy esmwyth ac effeithlon, a chwtogi ar fiwrocratiaeth ddiangen. Ein nod yw sicrhau bod staff yn cael profiad da yn gweithio i CTM, hyd yn oed cyn iddyn nhw ddechrau gweithio gyda ni. Gallwn ni wneud hyn drwy sicrhau bod y broses recriwtio yn gweithio’n dda a’i bod yn glir o ran beth fydd gofynion y swydd.  Yn CTM rydyn ni am i staff fwynhau eu hamser gyda ni o’r cychwyn cyntaf – eu bod yn cael croeso cynnes a bod ganddyn nhw’r holl offer sydd eu hangen arnynt wrth gyrraedd. Rydyn ni’n helpu rheolwyr i gefnogi eu staff drwy sicrhau bod y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw o fewn cyrraedd ac mewn un lle. Yn CTM rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu ein staff, ac rydyn ni wedi edrych ar sut rydyn ni’n defnyddio ein prosesau PDR i sicrhau bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi o ran eu datblygiad a’u lles. Ar ben hynny, rydyn ni’n gweithio gyda staff ar sut hoffen nhw gael eu cydnabod yn ffurfiol ac yn anffurfiol.

Mae CTM wedi ymrwymo i gefnogi lles staff, ac mae gyda ni ystod uchelgeisiol a phellgyrhaeddol o wasanaethau ar gael i bob gweithiwr. Rydyn ni’n cefnogi iechyd seicolegol ac iechyd corfforol staff, gan ddarparu gwasanaethau a fydd yn atal staff rhag mynd yn sâl, tra’n cefnogi’r unigolion hynny sy’n mynd yn sâl.   Mae’r gwasanaeth yn darparu dull gofal fesul cam sy’n paru’r ymyriadau lles i lefel yr angen. I’r rheiny sy’n iach, ac sydd eisiau aros yn iach, mae ystod o wasanaethau arloesol gyda ni, gan gynnwys clustffonau realiti rhithiol, sesiwn blas ar Ymwybyddiaeth Ofalgar ac ymlacio, gweithdai Cadw’n Iach ac adnoddau ar-lein am ddim er mwyn cynnal lles corfforol ac emosiynol. I’r rheiny sydd o bosib yn ei chael hi’n anodd, mae gyda ni linell gymorth dros y ffôn 24/7, gwasanaeth cwnsela, cyrsiau sy’n seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar ac ystod eang o weithdai. Rydyn ni’n cynnal cyrsiau i hybu ffyrdd iachach o fyw, i hybu colli pwysau, gweithgareddau corfforol a chodi hunan-barch, rydyn ni’n cynnal caffis menopos, rydyn ni’n cynnig hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth i bobl sy’n dioddef â COVID hir. Rydyn ni hefyd yn darparu amrywiaeth helaeth o wasanaethau i gefnogi a gwella sgiliau rheolwyr ac annog cefnogaeth cymheiriaid. Yn ogystal â’n gwasanaethau mewnol hyn, rydyn ni’n cydweithio â darparwyr yn y sector preifat a’r trydydd sector.

Chwilio am Swyddi

Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Chwilio am Swyddi