Optegydd

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae Cwm Taf Morgannwg yn rhoi cyfle i chi ffynnu fel unigolyn, i gysylltu ag eraill, ac i fod yn rhan o gam gwirioneddol tuag at gynwysoldeb a thegwch.   Mae cyfleoedd i rwydweithio a hyrwyddo materion sy’n bwysig i chi, ac i fod yn rhan o’n gwaith parhaus yn y maes pwysig hwn.

Rydyn ni am greu diwylliant sy’n wirioneddol gynhwysol, sy’n rhoi rhyddid i bawb yn y gwaith i gyfrannu ac i deimlo’n rhan o’r sefydliad heb deimlo fod angen iddyn nhw ‘ffitio i mewn’.   Gall hyn ein hysbrydoli ni i gyd i sicrhau canlyniadau iechyd teg a chyfartal ar draws ein poblogaeth iechyd amrywiol.

Drwy ein hymrwymiad at Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gallwn sicrhau fod pob un ohonom yn teimlo ein bod wedi ein cynnwys, ein bod ni’n parchu amrywiaeth, a bod gan bob un ohonom lais sy’n ein galluogi ni i gyd i fod yn ni ein hunain yn y gwaith.  Rydyn ni’n gwneud hyn mewn sawl ffordd – drwy ein rhwydweithiau gweithgar ar gyfer ein staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LGBTQ), ein staff Du, Asiaidd neu Ethnig Lleiafrifol (BAME) a staff anabl.   Gall staff gysylltu, rhannu eu profiadau a mynnu dweud eu dweud ar eu blaenoriaethau wrth iddyn nhw symud ymlaen ar nodau cyffredin.

Mae gan y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sy’n newid trwy’r amser, ac mae ein gweithlu cynyddol amrywiol yn adlewyrchu hyn ac yn rhagori arno hefyd.  Ni fu erioed amser pwysicach i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau rydyn ni wedi’u gweld yn ein cymdeithas drwy gydol y pandemig a chyn y pandemig hefyd. Gan hynny, ar adeg o newid mawr ar y ‘llwyfan rhyngwladol’ a thrwy barchu, meithrin a dathlu unigoliaeth ac amrywiaeth, gyda’n gilydd gallwn hyrwyddo profiad gwych i weithwyr a chleifion.

Chwilio am Swyddi

Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Chwilio am Swyddi