Fferyllfa

Diwylliant a Gwerthoedd

Pan fyddwn ni’n Gwrando, Dysgu a Gwella gyda’n gilydd, rydyn ni’n ysbrydoli ein gweithlu i ymdrechu at wella gofal cleifion bob dydd.

Pan rydyn ni’n dangos Parch at ein gilydd, rydyn ni’n ysbrydoli diwylliant o berthyn, lle gallwn ddod â’n cymeriad gwirioneddol i’r gwaith.

Pan fyddwn yn gweithio’n effeithiol fel Tîm, rydyn ni’n ysbrydoli ein gilydd drwy gydweithio mewn ffordd arloesol sy’n canolbwyntio ar y claf.

Pan fyddwn ni Ar Ein Gorau, mae ein cleifion yn derbyn gofal o safon ragorol mewn amgylchedd meithringar a chynhwysol. Gan roi ein gwerthoedd wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud, boed wrth wneud penderfyniadau neu ein prosesau recriwtio, rydyn ni’n hyrwyddo’r ymdeimlad o berthyn ar draws pob rhan o’r Bwrdd Iechyd.  Mae ein cleifion a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu yn haeddu gweld ein gwerthoedd ar waith bob dydd.

Crëwyd ein gwerthoedd gan ein pobl a’n partneriaid pwysicaf. Ar ôl derbyn dros 6,500 o negeseuon adborth, daeth ein gwerthoedd i’r amlwg.  Cafodd y rhain eu lansio ym mis Hydref 2020, ac er ei fod yn gyfnod digyffelyb i’r GIG, fe wnaethon ni lwyddo i gyfuno’r themâu diwylliannol hyn ym mhob congl o’n Bwrdd Iechyd – o’n prosesau recriwtio i’n hadolygiadau perfformiad, a phopeth yn y canol.

Mae ein gwerthoedd yn diffinio ein pobl, ein cenhadaeth a’n pwrpas. Trwy ymuno â CTM, byddwch yn ein gweld ni’n byw ein gwerthoedd bob dydd, a byddwch yn sicrhau bod ein cleifion yn profi hyn hefyd.

Chwilio am Swyddi

Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Chwilio am Swyddi