Gweithwyr

Cyfleoedd Gweithio Hyblyg

Yn CTM rydyn ni’n deall bod pobl yn wynebu heriau gwahanol ar wahanol adegau yn eu bywydau. Rydyn ni’n cydnabod y gallai fod angen trefniadau gweithio gwahanol arnom i gyd-fynd â chyfrifoldebau gofalu, salwch a chynlluniau diwedd gyrfa.

Beth mae ‘Gweithio Hyblyg yn ei olygu i CTM?

Mae COVID-19 wedi dangos y gallwn fod yn hyblyg yn y ffordd rydyn ni’n gweithio. Ar draws y Bwrdd Iechyd, rydyn ni wedi darparu ein gwasanaethau o swyddfeydd yn llwyddiannus o gartref. Mae’r pandemig wedi gwella ein gallu i weithio gyda thechnoleg, a bydd hyn yn llywio’r ffordd wrth weithio yn y dyfodol.

Yn CTM, mae nifer o gyfleoedd gyda ni sy’n ymwneud â gweithio hyblyg, sy’n ehangu y tu hwnt i weithio o gartref. Ar gyfer pob aelod o staff, clinigol ac anghlinigol, rydyn ni’n cynnig trefniadau gweithio rhan-amser, cywasgu oriau a rhannu swydd. Rydyn ni’n deall bod gweithio hyblyg yn golygu gwahanol bethau yn dibynnu ar natur y swydd. Fodd bynnag, ar gyfer pob swydd, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.

 

Beth yw manteision ‘Gweithio Hyblyg’ i’r gweithiwr a CTM?

Fel cyflogwr modern, rydyn ni’n credu bod Gweithio Hyblyg yn dod â llawer o fanteision, ac mae cael y cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith wrth wraidd unrhyw weithiwr hapus. Rydyn ni’n blaenoriaethu ein gweithwyr a’r ymrwymiadau sydd ganddyn nhw, yn eu bywydau personol ac yn y gwaith.

 

Pam ymuno â ni?

Rydyn ni’n gyflogwr sy’n dysgu o’r pandemig COVID-19 ym mhopeth a wnawn. Rydyn ni hefyd yn anelu at wella bywydau gwaith y rheiny ar draws y Bwrdd Iechyd, gan ein bod yn credu mai dyma sy’n sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i’n cleifion.

Rydyn ni’n dathlu ein hamrywiaeth yn CTM, ac mae ein hopsiynau Gweithio Hyblyg yn sicrhau ein bod yn gallu cefnogi cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith i bob unigolyn.

Chwilio am Swyddi

Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Chwilio am Swyddi