Archwilio rolau
Mae darparu gofal o ansawdd uchel a chynnal gwasanaethau effeithiol yn ymdrech tîm yng Nghwm Taf Morgannwg.
Yn ogystal â rolau clinigol mewn nyrsio a bydwreigiaeth, deintyddiaeth a nifer o feysydd arbenigol eraill, mae gyda ni nifer o dimau ymroddedig yn darparu nifer fawr o wasanaethau corfforaethol a chymorth sy’n hanfodol i gynnal ein Bwrdd Iechyd.
Gyda’n gilydd rydyn ni’n un tîm, yn gweithio gyda’n gilydd i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i’n cleifion a’n staff.
Rydyn ni’n falch o’r cyfraniad y mae pob aelod o staff yng Nghwm Taf Morgannwg yn ei wneud wrth ddarparu’r gofal gorau posibl i’n cymunedau.
Nyrsio a Bydwreigiaeth
Beth bynnag rydych chi’n chwilio amdano o’ch gyrfa’n ymwneud â nyrsio neu bydwreigiaeth, rydych chi’n siŵr o’i ganfod ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Darllen MwyMeddygol a Deintyddol
Fel gweithiwr meddygol neu ddeintyddol proffesiynol cymwysedig neu ymarferydd sy’n gweithio tuag at gymhwyso, rydych chi'n haeddu bod yn rhan o dîm y gallwch chi fod yn falch ohono.
Darllen MwyGweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
Rydyn ni’n gweithio gydag ystod o Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ar draws Cwm Taf Morgannwg sy’n ein cynorthwyo ni i reoli gofal cleifion.
Darllen MwyGwasanaethau Gwyddorau Iechyd
Mae ein staff fferyllol yn chwarae rhan hanfodol yng ngofal cleifion, trwy ddefnyddio eu gwybodaeth arbenigol am foddion a sut i’w defnyddio.
Darllen MwyGwasanaethau Cymorth
Mae gyda ni sawl tîm ymroddedig sy'n darparu nifer fawr o wasanaethau corfforaethol a chymorth sy'n hanfodol i gynnal ein Bwrdd Iechyd.
Darllen MwyGwasanaethau Gweinyddol
Yng Nghwm Taf Morgannwg mae gyda ni dîm creiddiol o weinyddwyr gofal iechyd sy’n cynorthwyo gyda’r gwaith o reoli’r holl swyddogaethau anghlinigol o fewn ein Bwrdd Iechyd.
Darllen MwyChwilio am Swyddi
Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.