Hyfforddi
Wrth hyfforddi yng Nghymru, gallwch ganfod llawer o gyfleoedd cyffrous am yrfa. Dewiswch o hyfforddiant arbenigol o ansawdd uchel a derbyn cefnogaeth gan weithwyr proffesiynol profiadol mewn gofal iechyd gan gynnwys meddygon a nyrsys sydd wedi ymrwymo i gynorthwyo eich datblygiad.
O fewn Cwm Taf Morgannwg, rydym yn sicrhau bod cyfle i chi ddatgloi eich potensial gyrfa ac rydym yn cefnogi llwybrau unigol trwy gynnig hyfforddiant arbenigol o ansawdd uchel.
Rydyn ni’n partneru ag amrywiaeth eang o ddarparwyr hyfforddiant ledled y rhanbarth i ddarparu cyfres o gymwysterau a chyfleoedd dysgu, gan gynnwys sesiynau pwrpasol.
Mae’r rhain yn cynnwys:
• Addysg glinigol – Addysg, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus ar bob cam o’ch gyrfa gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys hyfforddiant sylfaen, craidd ac arbenigol, rolau estynedig, presgripsiynu annibynnol, ymarfer arbenigol ac ymarfer uwch, hyd at ymarfer ar lefel ymgynghorydd;
• Rhaglen datblygu rheolwyr ac arweinwyr; cynnig hyfforddiant dan arweiniad i unrhyw un gyda chyfrifoldebau goruchwylio a/neu reoli;
• Fforwm Arweinyddiaeth sy’n cynnig cyfle anffurfiol i rwydweithio a chadw’n gysylltiedig â gwaith y Bwrdd Iechyd;
• Cyfleoedd i hyfforddi a mentora;
• Cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau.
Rydyn ni hefyd yn gweithio tuag at lansiad cyffrous Academi Arweinyddiaeth i helpu uwch-reolwyr i dyfu a datblygu yn eu rolau.
Chwilio am Swyddi
Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.