Gweithio

Gweithio

Bachwch ar y cyfle i barhau â thraddodiadau’r GIG yn ei wlad enedigol, gweithio mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf gyda chefnogaeth gref a dylanwadu ar ddyfodol gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.

Mae Cymru’n gartref i chwe Bwrdd Iechyd Prifysgol, un Bwrdd Iechyd Addysgu a thair Ymddiriedolaeth, ac mae pob un ohonyn nhw’n cyfrannu at enw da haeddiannol y GIG am ymchwil ryngwladol.

Mae gan Gwm Taf Morgannwg weithle amrywiol a blaengar. Yma, byddwch chi’n ymuno â thîm o unigolion brwdfrydig sy’n cydweithio i fynd i’r afael â’r heriau gofal iechyd mewn rhanbarth amrywiol.

Byddwch chi’n gweithio gyda chydweithwyr, yn ogystal â phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan ddefnyddio eich sgiliau a’ch arbenigedd i lunio’r gofal iechyd ar gyfer eich rhanbarth.

Rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant yn y gweithle ac rydyn ni’n darparu cyfleoedd i bob rhan o’r gymuned, yn ogystal â gweithio gyda llawer o ddarparwyr i sicrhau bod llawer o wahanol lwybrau at gyflogaeth i ymuno â’n Bwrdd Iechyd.

Fferyllfa

Yn eu plith, mae:

• Profiad gwaith;
• Prentisiaethau;
• Cynllun Graddedigion CTM;
• Project SEARCH;
• Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol
• Kickstart; a’n rhaglen newydd Llwybrau at Reoli.

Gyda dewis o gannoedd o yrfaoedd, mae swydd ar eich cyfer chi ni waeth beth yw eich diddordebau, eich sgiliau a’ch cymwysterau. O arbenigeddau meddygol a deintyddol i wasanaethau cymorth, myfyrwyr a phobl dan hyfforddiant, rydyn ni wedi ymrwymo i roi’r profiad gorau i weithiwyr yn ein tîm.

Optegydd

Mae’r holl grwpiau staff hyn yn golygu y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau iechyd i’n cymunedau lleol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r profiad gweithwyr gorau i bawb yn ein sefydliad.

Rydym yn cynnig llawer o raglenni hyfforddi a datblygu i gefnogi eich llwybr gyrfa. Edrychwn ymlaen at eich cefnogi.

Angen rhagor o resymau i ymuno â ni yng Nghwm Taf Morgannwg?

Pam ni?

Chwilio am Swyddi

Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Chwilio am Swyddi