Trawsnewid y Gweithlu
Mae ‘Trawsnewid y Gweithlu’ yn golygu ein bod bob amser yn edrych ar y ffordd rydyn ni’n gweithio, ac yn nodi a oes ffordd well a mwy effeithlon o wneud pethau.
Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid ar draws y GIG ac yn ehangach i ganfod dulliau newydd o weithio er mwyn gwasanaethu ein cleifion a defnyddwyr ein gwasanaethau yn well.
Beth mae ‘Trawsnewid y Gweithlu’ yn ei olygu i CTM?
Yn CTM, mae ‘Trawsnewid y Gweithlu’ yn sicrhau ein bod bob amser yn gwrando, yn dysgu ac yn gwella. Rydyn ni’n gwneud hyn ym mhob agwedd o’n gwasanaethau, fel edrych ar dechnolegau gwell, ailasesu beth yw’r ffordd orau i ddiwallu anghenion cleifion, ac ailedrych ar ein rolau fel ein bod yn cyd-fynd â’r newidiadau cyson yn y byd gofal iechyd. Rydyn ni’n anelu at fod yn fodern yn ein dulliau, gan ddefnyddio prosesau gwaith sy’n seiliedig ar dystiolaeth wrth i ni addasu’r ffordd rydyn ni’n gweithio ar draws y Bwrdd Iechyd.
Beth yw manteision ‘Trawsnewid y Gweithlu’ i CTM?
Mae llawer o fanteision i’n cynlluniau ‘Trawsnewid y Gweithlu’, gan gynnwys:
- Sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y dyfodol ac yn dal ati i ddiwallu anghenion defnyddwyr ein gwasanaethau.
- Rydyn ni’n sicrhau ein bod yn gweithio mewn ffordd arloesol.
- Rydyn ni’n annog dull creadigol o edrych ar bethau, a dydyn ni ddim yn credu mewn gwneud pethau yn y ffordd draddodiadol oherwydd mai dyna fu’r drefn erioed.
Chwilio am Swyddi
Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.