Cynnal Ein Dyfodol: Yr Amgylchedd, Arloesi, Cynaliadwyedd a’r Byd Digidol
Mae arweinyddiaeth CTM yn cael ei hysgogi gan gynaliadwyedd a’r agenda werdd. Mae nifer o weithgareddau cyffrous ar y gweill, ac mae llawer o bobl sydd â diddordeb mewn symud tuag at ddarparu gwasanaethau gwyrddach. Mae’r Bwrdd Iechyd eisoes wedi lleihau ei allbwn carbon dros y 5 mlynedd diwethaf, gan fynd y tu hwnt i’w ffigurau targed. Mae gofyniad newydd i Gymru fod yn garbon niwtral erbyn 2030, felly rhaid i ni leihau ein hallyriadau carbon gan 34% arall, ac rydyn ni’n benderfynol o gyrraedd y ffigur hwn.
Mae llawer o weithgarwch ar y gweill ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg mewn perthynas â’r Amgylchedd, Arloesi a Chynaliadwyedd. Rydyn ni’n gweithio ar wneud ein hadeiladau a’n cerbydau ar draws yr ystâd yn fwy ecogyfeillgar a chynaliadwy, megis defnyddio cerbydau trydan. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau cyllid i blannu mwy o goed ar ein safleoedd.
Mae ein nod corfforaethol o “Gynnal ein Dyfodol” yn golygu peidio â defnyddio mwy na’r adnoddau sydd gyda ni, yn ariannol neu’n amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys:
- Bod ein gwasanaethau’n gynaliadwy ac yn fforddiadwy.
- Ystyried ein heffaith ar y blaned.
- Lleihau ein hôl troed carbon.
- Ymyriadau cynaliadwy a dewisiadau eraill ar gyfer gwasanaethau, er enghraifft – dewisiadau anaesthetig amgen gyda llai o allyriadau CO2.
I gefnogi ein hagenda werdd, mae dewisiadau ynni amgen fel ffermydd gwynt a solar yn cael eu hystyried i bweru adeiladau ein Bwrdd Iechyd. Rydyn ni hefyd yn gwneud ein gweithgarwch caffael yn fwy cynaliadwy drwy fuddsoddi mewn cynhyrchu lleol er mwyn lleihau’r gadwyn gyflenwi fel nad oes angen i’r nwyddau deithio mor bell. Mae rheoli gwastraff hefyd yn flaenoriaeth, ac rydyn ni’n prynu nwyddau gyda llai o ddeunydd pacio ac yn ailgylchu ein gwastraff plastig drwy ei anfon at weithgynhyrchwyr sment fel nad yw’n llenwi’r gladdfa sbwriel.
Beth yw manteision y byd digidol i CTM?
- Rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i gael gwared â’r anghydraddoldebau mewn mynediad digidol ac ehangu hygyrchedd ar draws y boblogaeth rydyn ni’n ei chynrychioli.
- Mae defnyddio ymgynghoriadau ar-lein, apiau a gwefannau yn sicrhau bod cleifion yn gallu cyrraedd gwybodaeth i ofalu amdanyn nhw eu hunain a gwybodaeth ddiagnostig yn hawdd.
- Mae gwneud systemau a phrosesau’n fwy effeithlon yn sicrhau bod llai o amser yn cael ei dreulio ar waith gweinyddol.
- Bydd creu system sy’n rhoi rhyddid i glinigwyr gael gafael ar yr holl gofnodion yn sicrhau bod modd darparu gofal yn gyflymach, gan arwain at fwy o welyau mewn ysbytai ar draws y Bwrdd Iechyd yn y pen draw.
Chwilio am Swyddi
Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.