Gwasanaethau Gwyddorau Iechyd
Mae ein gwyddonwyr yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o atal, gwneud diagnosis a thrin pobl â nifer o gyflyrau meddygol, a dydy pob un ohonyn nhw ddim yn treulio eu diwrnodau mewn labordy.
Mae gyda ni Fferyllwyr, Dyfeiswyr Meddygol, Gwyddonwyr Biofeddygol, Microbiolegwyr, Ffisiolegwyr Anadlol, Optometryddion, Cymdeithion Meddygol, Ffisiolegwyr Cardiaidd, Technegwyr Patholeg, Ffotograffwyr Meddygol, ac Awdiolegwyr i enwi ambell un.
Fferylliaeth
Rydyn ni’n dîm arloesol, blaengar, ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygiad y proffesiwn Fferylliaeth i ddarparu gofal rhagorol i gleifion.
Gyda chymysgedd o dimau fferylliaeth mewn ysbytai a thimau clwstwr gofal sylfaenol, mae ein timau’n darparu gwasanaethau trwy fferyllfa brysur, unedau aseptig, a wardiau, ynghyd ag unedau gofal uwch i ofal dwys a gofal y galon.
O fewn gofal sylfaenol, daw ein timau Fferylliaeth yn aelodau integredig o’r timau gofal sylfaenol mewn meddygfeydd a chlwstwr gofal sylfaenol.
Chwilio am Swyddi
Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.