Gwasanaethau Cymorth
Ynghyd â’r proffesiynau penodol uchod, mae nifer o rolau eraill gyda ni sy’n ffurfio rhan o’r tîm gofal iechyd ehangach.
Beth bynnag yw eich sgiliau neu’ch diddordebau, mae yna rôl GIG i chi. Gall hyn fod yn weithiwr cymorth gofal iechyd, porthor neu waith domestig, trydanwr neu blymiwr.
Rydyn ni’n un tîm, ac rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i ddarparu’r gwasanaethau gorau posib i’n cleifion, ein staff a’n cymuned.
Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd
Mae cymaint o feysydd a gwasanaethau lle mae ein Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yn gweithio ochr yn ochr â’n timau amlddisgyblaethol.
Gallech chi fod yn gweithio mewn wardiau, yn yr uned famolaeth, neu gydag ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol. Mae’n bosibl gallech fod yn gweithio gyda’n timau therapïau.
Mae pob diwrnod yn wahanol, a byddwch chi’n cefnogi ein cleifion yn ystod eu triniaethau gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w profiad a’u lles.
Ystadau a Chyfleusterau
Mae ein cydweithwyr yn yr adran Ystadau a Chyfleusterau yn bwysig iawn yn y gwaith o redeg ein hysbytai a’n safleoedd, gan eu cadw’n lân, yn ddiogel a hyfyw.
Gall hynny fod trwy weithio yn yr adran ddomestig a chwarae rhan allweddol mewn rheoli heintiau, neu gludo cleifion fel porthor, i wneud atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw fel trydanwr, plymiwr neu addurnwr.
Byddwch chi’n gweithio ar draws pob adran a gwasanaethau yn CTM – dydy’r un diwrnod byth yr un fath.
Chwilio am Swyddi
Porwch drwy ein rhestr o swyddi gwag a dewch o hyd i’r swydd berffaith i chi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.